Amdanom Ni

Y Cwmni
Cafodd y cwmni ei ffurfio ym 1929 ac rydym wedi ennill enw da am ddarparu’r gwasanaeth personol a phroffesiynol gorau un ar gyfer ein cleientiaid. Drwy ein harbenigedd, gallwn deilwra ein hamrywiaeth eang o sgiliau a gwasanaethau i ateb eich gofynion ariannol penodol chi.
Rydym wedi sefydlu ein hunain fel un o’r cwmnïau cyfrifwyr siartredig annibynnol arweiniol yng Ngogledd Cymru. Ar hyn o bryd mae gennym 6 partner a thîm o staff profiadol a chymwys - sy'n ein galluogi i ddarparu gwasanaeth proffesiynol, personol, heb ei ail yn gost effeithiol i bob un o’n cleientiaid.
O gofio ein record ragorol ac amlwg mewn cynorthwyo’n cleientiaid, gallwn eich sicrhau y bydd eich holl faterion ariannol yn cael eu rheoli’n briodol ac yn dreth effeithlon.