Partneriaid


pic1

Emlyn Griffiths FCA

Cymhwysodd Emlyn yn gyfrifydd siartredig ym 1967 a daeth yn bartner ym 1972. Dros y blynyddoedd mae wedi ennill arbenigedd sylweddol mewn pynciau sy'n gysylltiedig â ffermio ac amaethyddiaeth fel sy'n addas mewn economi wledig. Ei brif ddiddordebau yw cynllunio dilyniant busnes teuluol a datblygu busnes yn gyffredinol.

pic1

Philip O. Horwood FCA

Cymhwysodd Philip yn gyfrifydd siartredig ym 1970. Ar ôl gweithio dramor am 11 mlynedd, daeth yn ôl i wledydd Prydain ym 1983, ymunodd â’r cwmni a daeth yn bartner ym 1985.

pic1

David Ll. Williams CBiol, MSB, FCA

Cymhwysodd David yn Gyfrifydd Siartredig ym 1990 a daeth yn bartner ym 1992. Ei brif ddiddordebau yw datblygu busnes, treth a rhagamcaniadau ariannol gan gynnwys ymgynghoriaeth grantiau.

pic1

Sian M. Williams FCA, MBA

Cymhwysodd Siân yn gyfrifydd siartredig ym 1987 a daeth yn bartner ym 1994. Mae gan Siân brofiad o ymarfer cyffredinol eang gan gynnwys pob agwedd o drethiant a rheolaeth ariannol ac mae ganddi arbenigedd penodol mewn problemau trethi personol a busnesau bach.

pic1

Lis Daly FCA

Cymhwysodd Lis yn Gyfrifydd Siartredig ym 1997 a daeth yn bartner ym 2005. Hi yw Partner Cydymffurfiaeth Archwilio’r cwmni ac mae ganddi ddiddordeb arbennig mewn materion trethi busnes a phersonol.

pic1

Rebecca Rice-Roberts ACA, CTA